P-05-847 Creu ffynhonnau dŵr yng nghanol dinasoedd a threfi er mwyn rhoi diwedd ar wastraff plastig
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Tereza Tothova, ar ôl casglu 149 o lofnodion.
Geiriad y ddeiseb
Rydym yn galw ar i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ystyried creu ffynhonnau dŵr a'u rhoi yng nghanol dinasoedd a threfi. Prif ddiben y cam gweithredu hwn fyddai roi diwedd ar wastraff plastig. Gwelwyd cynnydd sylweddol yn nifer y poteli plastig untro yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac oherwydd y broses ailgylchu araf, mae'n llygru'r amgylchedd, gan niweidio bywyd y môr yn arbennig.
Mae llawer o bobl yn ceisio byw yn iach, gan gynnwys yfed o leiaf 2 litr o ddŵr bob dydd. Felly, mae poteli dŵr amldro wedi dod yn boblogaidd a defnyddiol iawn i helpu pobl i yfed digon o ddŵr drwy'r dydd. Byddai rhoi ffynnon ddŵr yng nghanol dinasoedd neu mewn rhannau eraill o ddinasoedd a threfi (canolfannau siopa, canolfannau chwaraeon, colegau, canolfannau diwylliannol ac ati) yn helpu i sicrhau bod dŵr yfed ar gael trwy'r dydd. Byddai'r ffynhonnau dŵr hyn hefyd yn cyflenwi dŵr yfed i bobl ddigartref.
I gefnogi'r economi leol yng Nghymru, gellid defnyddio cwmnïau dŵr mwynol Cymru ar gyfer cyflenwi'r ffynhonnau dŵr.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Gorllewin Caerdydd
· Canol De Cymru